Charles Warren | |
---|---|
Ganwyd | 7 Chwefror 1840 Bangor |
Bu farw | 21 Ionawr 1927 Gwlad yr Haf |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | anthropolegydd, swyddog milwrol, heddwas, archeolegydd, peiriannydd, ffotograffydd |
Tad | Charles Warren |
Plant | Violet Warren, Charlotte Warren, Frank Warren, Richard Warren |
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Roedd General Sir Charles Warren, GCMG, KCB, FRS (7 Chwefror 1840 – 21 Ionawr 1927) yn swyddog yn y Peiriannwyr Brenhinol Prydeinig. Roedd yn un o'r archeolegwyr cynhara o'r Tir Sanctaidd Beiblaidd, ac yn enwedig o'r Temple Mount. Cafodd rhan helaeth o'i yrfa miliwrol ei dreulio yn Ne Affrica. Cyn hynny, roedd yn brif heddwas, yn bennaeth ar yr Heddlu Metropolitan yn Llundain o 1886 tan 1888, yn ystod cyfnod llofruddiaethau Jack the Ripper. Cafodd ei arweiniad yn ystod ymladd yn Ail rhyfel y Boer ei farnu, ond fe lwyddodd yn sylweddol drwy gydol ei amser hir mewn rol milwrol a cymdeithasol.